Arwain – Academi Hywel Teifi app icon

Arwain – Academi Hywel Teifi

Galactig Cyf

★ 0.00 ratingsEducationFree

iPhone Screenshots

App screenshotApp screenshotApp screenshot

Description

Croeso i Arwain; ap rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n siarad neu dysgu Cymraeg. Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, y gefnogaeth ariannol sydd ar gael tra bo ti’n astudio yma, ynghyd â’r cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg yn Abertawe. Dyma’r hyn sydd yn yr ap: · Rhestr o fodiwlau sy’n cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn dy faes pwnc · Disgrifiad o’r gefnogaeth academaidd sydd ar gael i ti a gwybodaeth am ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol · Gwybodaeth am fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg Abertawe – llety cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, yr Undeb Myfyrwyr a’r GymGym a chalendr o ddigwyddiadau · Gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg · Gwybodaeth am gyfleoedd i ddysgu neu loywi dy Gymraeg · Gwybodaeth am Academi Hywel Teifi – canolfan sy’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau ym Mhrifysgol Abertawe · Gwybodaeth am Gangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Abertawe a’i chynlluniau cefnogi